Gwilym Owen

Oddi ar Wicipedia
Gwilym Owen
Ganwyd1931 Edit this on Wikidata
Llannerch-y-medd Edit this on Wikidata
Bu farwGorffennaf 2019 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
Man preswylBangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr, colofnydd, cynhyrchydd teledu, cyflwynydd radio, cyflwynydd teledu, gweithredwr darlledu Edit this on Wikidata
Am y ffisegydd gweler Gwilym Owen (ffisegydd)

Newyddiadur a darlledwr o Gymro oedd Gwilym Owen (193112 Gorffennaf 2019)[1] Yn ei yrfa bu'n ohebydd, cyflwynydd, cynhyrchydd, pennaeth newyddion yn HTV Cymru a BBC Cymru a cholofnydd.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Gwilym yn Llannerch-y-medd ar Ynys Môn, yn fab i was ffarm. Roedd yn frawd i Derwyn, Beti a Tecwyn. Mynychodd ysgol gynradd y pentref yna Ysgol Ramadeg Llangefni. Aeth ymlaen i Brifysgol Bangor cyn treulio dwy flynedd gyda'r Llu Awyr. Cychwynodd weithio fel warden ac arweinydd ieuenctid ym Maesgeirchen, Bangor, yn ddirprwy i I B Griffith. Roedd ganddo ddiddordeb brwd mewn pêl-droed ac roedd yn ddyfarnwr cydnabyddedig hyd at 1965.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cychwynodd ei yrfa deledu yn y 1960au fel gohebydd gyda chwmni teledu TWW yn y gogledd o dan y pennaeth Wyn Roberts. Symudodd wedyn i HTV Cymru pan ddaeth TWW i ben. Sefydlodd y rhaglen materion cyfoes Yr Wythnos a ddarlledwyd ar nosweithiau Llun rhwng 1970 a 1982. Yn Mehefin 1970 derbyniodd swydd fel cynhyrchydd rhaglen newyddion Y Dydd yng Nghaerdydd, a gynhyrchwyd gan HTV Cymru. Wedi hynny fe'i benodwyd bennaeth newyddion a materion cyfoes HTV Cymru.

Ym mis Mehefin 1970 derbyniodd swydd fel cynhyrchydd rhaglen Y Dydd yng Nghaerdydd, cyn ei benodi'n bennaeth newyddion a materion cyfoes HTV Cymru. Yn Nhachwedd 1982, symudodd i'r BBC fel golygydd newyddion BBC Radio Cymru. Wedi hynny daeth yn ddirprwy bennaeth newyddion a materion cyfoes BBC Cymru ac yna'n bennaeth. Yn yr 1980au roedd yn cadeirio y rhaglen radio Hawl i Holi, lle'r oedd panel yn ateb cwestiynau gan y cyhoedd ar faterion cyfoes a gwleidyddol. Gwilym Owen oedd cadeirydd gwreiddiol y rhaglen Pawb a'i Farn pan droswyd y fformat holi-ac-ateb i deledu yn 1993.

Roedd yn gyfarwyddwr y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg am gyfnod.

Wedi ymddeol, parhaodd fel cyflwynydd nifer o raglenni ar Radio Cymru. Cyflwynodd y rhaglen wythnosol Wythnos Gwilym Owen rhwng 1996 a 2011. Arwyddair ei raglen oedd "holi a stilio, procio a phryfocio". Bu hefyd yn cyflwyno rhai penodau o Manylu.

Bu'n golofnydd wythnosol i bapurau newydd Y Faner, Y Cymro ac i gylchgrawn Golwg. Roedd ganddo golofn wythnosol yng nghylchgrawn Golwg ers y 1990au (bob pythefnos ers 2012) ond daeth hynny i ben ar 25 Ebrill 2019. Roedd hyn yn dilyn anghytundeb rhwng Gwilym a'r golygydd Siân Sutton. Roedd Gwilym am ddefnyddio'r golofn i ymateb i lythyr yn gwawdio ei gyfnod fel dyfarnwr pêl-droed. Roedd y golygydd yn barod i gyhoeddi'r llith fel llythyr ond nid colofn, felly penderfynodd Gwilym na fyddai'n parhau a'i golofn.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod ag Eirlys a cawsant un ferch, Eleri. Ers ymddeol roedd yn byw ym Mangor. Ysgrifennodd ei hunangofiant Crych dros Dro yn 2003.

Er ei fod yn feirniad cyson o'r Eisteddfod Genedlaethol cafodd ei dderbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 1997 gan ddweud "mai dyma'r unig anrhydedd i Gymro Cymraeg".

Marwolaeth a theyrngedau[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Ysbyty Eryri, Caernarfon yn 87 mlwydd oed wedi gwaeledd byr.[3] Cafwyd nifer o deyrngedau iddo, yn nodi ei arddull ymosodol a phryfoclyd yn ogystal a'i gyfraniad sylweddol i newyddiaduraeth.[4]

"Gwilym Owen oedd un o'r newyddiadurwyr gorau ry'n wedi'i weld yng Nghymru - roedd e'n drylwyr, roedd e'n dreiddgar wrth iddo graffu yn fanwl ar ein sefydliadau ni."

"Mi roedd Gwilym yn un o gewri'r byd darlledu Cymraeg, y byd newyddiadurol Cymraeg - roedd ganddo drwyn da am stori a'r dycnwch penderfynol i fynd o dan groen y stori honno."

"Yn ei holi miniog a thrwyadl, doedd dim dianc rhag Gwilym - roedd yn newyddiadurwr wrth reddf a chanddo'r ddawn amlwg i fynd o dan groen unrhyw sefydliad."

Yn ôl Dafydd Iwan, doedd Gwilym Owen ac yntau ddim yn “gweld llygaid yn llygaid” ar nifer o faterion, gyda’r ddau’n ei gweld hi’n “haws i ddadlau nag i gytuno”.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y newyddiadurwr, Gwilym Owen, wedi marw , Golwg360, 12 Gorffennaf 2019.
  2. Y newyddiadurwr Gwilym Owen wedi marw yn 87 oed , BBC Cymru Fyw, 12 Gorffennaf 2019.
  3.  Announcing the passing of Gwilym OWEN. Daily Post (16 Gorffennaf 2019).
  4.  “Newyddiaduriaeth Gymraeg yn dlotach” heb Gwilym Owen – Vaughan Hughes. Golwg360 (12 Gorffennaf 2019).